Diwrnod Agored Cerddoriaeth Rhithwir| Israddedig ac Ôl-raddedig
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Bydd y Diwrnod Agored Cerddoriaeth Rhithwir yn sesiwn ddiddorol ac addysgiadol yn cynnwys sgwrs gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tim Rhys-Evans, ac yna sgyrsiau ysbrydoledig gan fyfyrwyr presennol wrth iddynt rannu eu teithiau i astudio yn y Conservatoire a’u profiadau yn y Coleg. Byddwch hefyd yn clywed gan ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu i ffynnu yn ystod eich amser gyda ni. Yn ogystal, bydd Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cipolwg ar fywyd myfyrwyr a’r nifer o gyfleoedd i gymryd rhan y tu hwnt i’ch astudiaethau. Bydd y sesiwn yn gorffen gyda sesiwn Holi ac Ateb, gan roi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Manylion
- Dyddiad: 10th Medi 2025 
- Amser: 4:00pm - 5:30pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 029 2039 1361
- E-bost: info@rwcmd.ac.uk