Cyfrifon Dysgu Personol – Peirianneg a Gweithgynhyrchu
Coleg Gwent
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sy’n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu o amgylch eu ffordd bresennol o fyw.
Mae peirianneg yn yrfa sydd â dyfodol disglair sy’n cynnig rhagolygon rhagorol mewn ystod o feysydd. Mae cyfleoedd dilyniant enfawr yn y diwydiant sy’n golygu y gallech chi sefydlu gyrfa am oes.
Gyda chyrsiau ar bob lefel i ddarparu ar gyfer popeth o ddechreuwyr llwyr i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu, gall cwrs Cyfrif Dysgu Personol Peirianneg a Gweithgynhyrchu yn Coleg Gwent eich helpu i gymhwyso a chyflawni eich amcanion gyrfa.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01495 333777