Cyrsiau Rhan-amser
Grŵp Colegau NPTC
P’un a ydych chi’n chwilio am hobi newydd, yn gobeithio ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gwaith, neu angen cymwysterau i ddechrau gyrfa newydd, fe welwch chi ystod eang o gyrsiau byr, rhan-amser a phroffesiynol yng Ngrŵp Colegau NPTC 📚✨
Gall dysgu rhan-amser wella’ch rhagolygon gyrfa presennol neu’ch helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at ddyfodol newydd sbon mewn sectorau lle mae galw am weithwyr proffesiynol medrus 👏🏻 Byddwch chi’n ennill sgiliau gwerthfawr a chymwysterau cydnabyddedig y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt, gan eich helpu i symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu newid gyrfaoedd yn gyfan gwbl 🚀
Gyda chyrsiau’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn, opsiynau astudio hyblyg a meintiau dosbarth bach, byddwch chi’n elwa o gefnogaeth bersonol un-i-un bob cam o’r ffordd 🤝🏻
Dechreuwch eich taith yn 🖱️ nptcgroup.ac.uk/cy/course-types/rhan-amser
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 0330 818 8100