Dylunio Digidol a CAD ar Gyfer Gwynt ar y Môr Arnofiol
Grŵp Colegau NPTC
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn rhoi cyflwyniad i Ddylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) gan ddefnyddio AutoCAD, gyda chymwysiadau sy’n berthnasol i’r sector Gwynt ar y Môr Arnofiol (FLOW) sy’n tyfu.
Bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i greu, golygu a rheoli lluniadau technegol 2D cywir ac ar yr un pryd ennill dealltwriaeth o arferion dylunio safonol y diwydiant.
Drwy weithgareddau ymarferol a phrosiectau dan arweiniad, bydd cyfranogwyr yn magu hyder wrth ddefnyddio AutoCAD i gefnogi prosiectau peirianneg, adeiladwaith, ynni adnewyddadwy a seilwaith.
Cyfleoedd Dilyniant
Gall cynrychiolwyr llwyddiannus symud ymlaen i gwrs Lefel 2 llawn mewn AutoCAD.
Lleoliad
• Campws Castell-nedd
• Campws Afan
• Campws Aberhonddu
• Campws Y Drenewydd
• Ar Safle
Gofynion Mynediad
Mae’n rhaid bod gan gynrychiolwyr fynediad at gyfrifiadur gyda mynediad i’r rhyngrwyd.
Pwy Ddylai Ddod?
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
• Unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd peirianneg a dylunio neu sy’n ystyried gyrfaoedd ynni adnewyddadwy a gwynt ar y môr
• Gweithwyr presennol sydd eisiau datblygu eu sgiliau meddalwedd CAD
• Unrhyw un sy’n dymuno datblygu sgiliau dylunio digidol sy’n berthnasol i’r diwydiant
Hyd y Cwrs
3 Diwrnod
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu:
• Cyflwyniad i AutoCAD
• Llywio Amgylchedd AutoCAD
• Hanfodion Lluniadu a Golygu
• Offer Addasu a Geometreg
• Haenau a Phriodweddau
• Dimensiynau, Testun ac Anodiadau
• Blociau a Chydrannau Ailddefnyddiadwy
• Prosiect Ymarferol
Dull Asesu
Asesiad Ymarferol
Ardystiad
Tystysgrif Presenoldeb
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 0330 818 8100
- E-bost: business@nptcgroup.ac.uk