Hanfodion Dronau FPV: Systemau, Diogelwch A Hedfan Ymarferol
Grŵp Colegau NPTC
Mae’r cwrs cyflwyniadol undydd hwn yn rhoi sylfaen ymarferol i ddysgwyr mewn gweithredu dronau Golwg Person Cyntaf (FPV).
Gan gyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth, hyfforddi ar efelychydd, ac ymarfer hedfan ymarferol, bydd cyfranogwyr yn datblygu dealltwriaeth o systemau drôn FPV, gweithdrefnau gweithredu diogel, a sgiliau peilota hanfodol.
Dyluniwyd y cwrs hwn i gefnogi cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yn y sectorau ynni adnewyddadwy a thechnoleg werdd, ac mae’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i ddechrau ar lwybr dilyniant i weithrediadau dronau uwch.
Cyfleoedd Dilyniant
Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau dronau llawn:
• Tystysgrif Cymhwysedd A2 (A2 CofC)
• Tystysgrif Llinell Olwg Weledol Gyffredinol (GVC)
Lleoliad
• Campws Castell-nedd
• Campws Afan
• Campws Aberhonddu
• Campws Y Drenewydd
• Ar Safle
Gofynion Mynediad
Dim
Hyd y Cwrs
1 Diwrnod
Pwy Ddylai Ddod?
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
• Unigolion sydd â diddordeb mewn technoleg dronau
• Dysgwyr sy’n chwilio am yrfaoedd diwydiannau ynni adnewyddadwy a gwynt ar y môr
• Y rhai sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau technegol newydd ar gyfer yr economi werdd
• Unigolion sy’n ystyried symud ymlaen i rolau gweithredu ac archwilio dronau’n broffesiynol
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r canlynol:
• Gweithredu dronau FPV yn ddiogel
• Trosolwg o wahanol fathau a meintiau o ddronau FPV
• Cydrannau FPV a’u swyddogaethau
• Cyfluniad sylfaenol a gwiriadau system
• Diogelwch batris a sut i’w trin
• Gweithdrefnau gosod ac arfogi’r trosglwyddydd
• Gwiriadau diogelwch cyn hedfan
• Cyflwyniad i efelychyddion hedfan FPV
• Rheolaethau hedfan a chyfeiriadu sylfaenol
• Cymhwyso sgiliau efelychydd i hedfan go iawn
• Rheoli hofran a’r throtl
• Troadau rheoledig a hedfan cyfeiriadol
• Llywio o gwmpas rhwystrau
Dull Asesu
• Asesiad Ymarferol
• Arsylwi Cyfranogiad
Ardystiad
Tystysgrif Presenoldeb
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 0330 818 8100
- E-bost: business@nptcgroup.ac.uk