Sgiliau Cyfrifiadura a Digidol – Dechreuwyr
ACL Coleg Llandrillo
Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol wedi’u hanelu at y rhai sydd eisiau dull ysgafn ac anffurfiol o ddysgu sut i ddefnyddio technoleg. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar a hawdd mynd atynt, cynllunnir gwersi i ddiwallu diddordebau’r rhai sy’n mynychu a gellir eu mwynhau fel rhan o ddatblygiad gyrfa dysgu er pleser.
Byddwch yn dysgu hanfodion defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais, a fydd yn cynnwys sgiliau teipio a bysellfwrdd sylfaenol i greu dogfennau.
Byddwch hefyd yn dysgu am: aros yn ddiogel ar-lein, eich ôl troed digidol, rhyngweithio ag eraill ar-lein a defnyddio nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau.
Byddwch yn dysgu sut i reoli eich gwybodaeth ddigidol o ffeiliau a lluniau i dudalennau gwe.
Byddwch yn creu/defnyddio cyfrif e-bost i gyfathrebu ag eraill ac i gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
Mae croeso i chi ddod â’ch dyfais eich hun.
Gall pynciau amrywio ar wahanol gampysau.
Manylion
- Dyddiad: 4th Medi 2025 - 18th Rhagfyr 2025 
- Amser: 9:30am - 12:00am
- Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
- Ffôn: 01745 812812 ext 1676
- E-bost: jones6e@gllm.ac.uk