Cyfrifon Dysgu Personol – Gwasanaethau Ariannol
Coleg Gwent
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sy’n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu o amgylch eu ffordd bresennol o fyw.
Mae dilyn cwrs ym maes gwasanaethau ariannol yn ddewis gwych o ystyried yr amrywiaeth eang o yrfaoedd ar gael yn y sector. Rydym yn cynnig cyrsiau fydd yn darparu’r sgiliau rydych chi eu hangen i weithio mewn swyddi o Gynghorwr Morgais i Swyddog Cydymffurfiaeth.
Yn ogystal â chynnig cymhwyster sy’n cael ei gydnabod, bydd ein cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Gwasanaethau Ariannol yn darparu sgiliau ymarferol a gwybodaeth i’ch helpu chi i ddatblygu o fewn yr yrfa y byddwch yn ei dewis.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01495 333777