Gwrthrychau Gwagedd: Dillad a Thecstilau
Prifysgol Aberystwyth, Dysgu Gydol Oes
Bydd cyfranogwyr yn archwilio hanes ac arwyddocâd pocedi ac ategolion personol mewn dillad. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan oedd pobl yn aml yn rhannu mannau byw a dodrefn, roedd pocedi yn darparu lle preifat a diogel i gadw eiddo personol. Yn ystod y sesiwn ymarferol hon, bydd cyfranogwyr yn creu pwrs bach neu reticwl wrth ddysgu am gyd-destun hanesyddol a diwylliannol dillad a thecstilau. Cynhelir y noson agored a’r gweithdai yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes, Adeilad Milford, Campws Gogerddan, Aberystwyth ar 9 Medi, 4yr i 6.30yr Map: https://www.aber.ac.uk/cy/discover-aberystwyth/maps-travel/maps/#buildings/lord-milford Bydd hwn yn ddigwyddiad 2 awr 30 munud, yn agored i unrhyw un, a fyddai’n arddangos cyfleusterau Dysgu Gydol Oes yn ogystal â rhoi cyfle i ddarpar ddysgwyr siarad â staff academaidd, staff gweinyddol yn ogystal â dysgwyr presennol. Yn ogystal â’r Gweithdy hwn, ar yr un diwrnod bydd gennym y canlynol: Ffyngau Trwy Gelf Ffyngau: Cyflwyniad i Deyrnas Ffyngau Gweithdy Crochenwaith Os ydych chi wedi cymryd rhan yn y gweithdy hwn, anfonwch eich adborth atom trwy lenwi’r ffurflen Adborth hon: https://shorturl.at/lSmmr Diolch am gymryd rhan!
Manylion
- Dyddiad: 8th Medi 2026 
- Amser: 4:00pm - 5:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01970 621580