Gweminar: Strategaethau ynni i arbed arian ar gyfer mudiadau nid-er-elw
Ymunwch ag Utility Aid am sesiwn llawn gwybodaeth sydd wedi’i chynllunio i helpu mudiadau nid-er-elw i reoli a lleihau eu costau ynni. Bydd y weminar hon yn cynnig arweiniad ymarferol ar:
Roi mesurau arbed ynni ar waith
Deall contractau ynni
Dewis y tariffau mwyaf cost-effeithiol
Byddwch hefyd yn cael eich tywys gam wrth gam drwy ein gwefan newid ynni – sydd ar gael i aelodau CGGC yn unig – i’ch helpu chi i ddod o hyd i fargeinion ynni gwell a’u sicrhau.
Waeth a ydych yn rheoli elusen neu fudiad ffydd neu’n ddarparwr gwasanaethau yn y gymuned, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i chi i wella effeithlonrwydd ynni a chefnogi cynaliadwyedd ariannol eich mudiad.
Pam mynychu? Byddwch:
Yn dysgu sut i leihau costau ynni a negodi cynigion gwell.
Yn gallu dewis tariffau mwy clyfar yn fwy hyderus.
Yn cael cyfle i wylio arddangosiad byw o wefan newid Utility Aid.
Yn feistr ar gontractau ynni eich mudiad ac yn gallu datgloi arbedion ystyrlon.
Manylion
- Dyddiad: 17th Medi 2025 
- Amser: 2:00pm - 3:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan