Cyfrifon Dysgu Personol – TG a Rhwydweithio
Coleg Gwent
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sy’n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu o amgylch eu ffordd bresennol o fyw.
Os ydych eisiau datblygu eich gyrfa mewn TG a rhwydweithio, neu rydych eisiau ymuno â’r diwydiant, dyma’r lle gorau i ddechrau arni! Yma yn Coleg Gwent rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Rhwydweithio, yn cynnwys CompTIA a Cisco.
Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol gan gyflogwyr, a byddwch yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli, datrys problemau a chadarnhau rhwydweithiau sefydliad yn hyderus ac annibynnol. Cymerwch eich cam cyntaf drwy wneud cais am un o’n Cyfrifon Dysgu Personol TG a Rhwydweithio heddiw!
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01495 333777