Ffyngau: Cyflwyniad i Deyrnas y Ffyngau
Prifysgol Aberystwyth, Dysgu Gydol Oes
Bydd y sesiwn wyddoniaeth ragarweiniol hon yn archwilio byd hynod ddiddorol ac amrywiol ffyngau. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am y rolau ecolegol hanfodol y mae ffyngau’n eu chwarae o fewn coetir a cynefinoedd glaswelltir a chael dealltwriaeth o amrywiaeth ac adnabyddiaeth ffwngaidd. Cynhelir y noson agored a’r gweithdai yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes, Adeilad Milford, Campws Gogerddan, Aberystwyth ar 8 Medi, 4yh i 6.30yr Map: https://www.aber.ac.uk/cy/darganfod-aberystwyth/maps-travel/maps/#adeiladau/lord-milford Bydd hwn yn ddigwyddiad 2 awr a 30 munud, yn agored i unrhyw un, a fyddai’n arddangos cyfleusterau Dysgu Gydol Oes yn ogystal â rhoi cyfle i ddarpar ddysgwyr siarad â staff academaidd, staff gweinyddol yn ogystal â dysgwyr presennol. Yn ogystal â’r Gweithdy hwn, ar yr un diwrnod bydd gennym y canlynol: Gwrthrychau Gwagedd: Dillad a Thecstilau Ffyngau Trwy Gelf Gweithdy Crochenwaith Os ydych chi wedi cymryd rhan yn y gweithdy hwn, anfonwch eich adborth atom trwy lenwi’r ffurflen Adborth hon: https://shorturl.at/lSmmr Diolch am gymryd rhan!
Manylion
- Dyddiad: 8th Medi 2026 
- Amser: 4:00pm - 6:30pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01970 621580