Sir Ddinbych yn Gweithio: Sesiwn galw heibio Barod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed
Sir Ddynbych yn Gweithio

Ydych chi’n teimlo’n ansicr am eich camau nesaf? Nid chi yw’r unig un. Mae ein sesiwn galw heibio i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn un hamddenol a chyfeillgar, lle gallwch ddod i gwrdd â hyfforddwr lles a chysylltu â phobl eraill yr un oed â chi sydd o bosibl yn teimlo’r un fath.
P’un a ydych chi’n chwilio am gyngor, cefnogaeth, neu ddim ond sgwrs gyda phobl o’r un meddylfryd, dyma amgylchedd heb bwysau, croesawus, i’ch helpu i deimlo’n fwy hyderus am eich dyfodol.
Mae sesiynau galw heibio Barod ar gyfer unrhyw un sydd rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych.
Cynhelir sesiynau galw heibio Barod yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, bob dydd Iau rhwng 1pm a 2:30pm.
Gall unrhyw un sydd rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych ddod draw i unrhyw un o’n sesiynau galw heibio Barod. Nid oes angen apwyntiad, mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim a gallwch fynychu cymaint o sesiynau ag y mynnwch.
Manylion
- Dyddiad: 9th Hydref 2025 
- Amser: 1:00pm - 2:30pm
- Rhanbarth: Gogledd Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 01745 331 438