Sesiynau Galw Heibio Argraffu 3D: Llyfrgell Llanelli
Llyfrgelloedd Sir Gâr
Llyfrgell Llanelli
Oes gennych chi ddiddordeb mewn argraffu 3D neu oes gennych chi ffeil rydych chi eisiau ei hargraffu? Galwch heibio i’r gofod creu ac ymholi am argraffu 3D!
Mae gan ein hargraffyddion gyfaint adeiladu mawr (330mm x 240mm x 300mm) a gallant argraffu mewn ystod eang o wahanol liwiau a deunyddiau i gyd-fynd orau â’ch anghenion argraffu. Mae rhai o’n deunyddiau’n cynnwys PLA, PETG a TPU95A sydd hefyd ar gael mewn ystod eang o liwiau. Fodd bynnag, os oes deunydd nad oes gennym ac yr hoffech argraffu, mae croeso i chi ymholi a byddwn yn gweld beth allwn ni ei wneud.
Ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysiadau mae PLA yn addas. Mae PETG yn fwyaf addas ar gyfer cymwysiadau tymheredd uwch lle byddai’r rhan argraffedig yn destun tymereddau uwch ac mae TPU yn ddeunydd hyblyg tebyg i rwber.
Mae gennym ni hefyd ystod eang o offer ar gael i’w ddefnyddio. Yn amrywio o ysgythru laser i gerfio CNC.
Costau Argraffu.
• £1.50 yr awr am ddefnyddio’r peiriant.
• £0.50 Fesul metr o ddeunydd a ddefnyddir.
Gwybodaeth Bwysig:
• Mae cyfyngiadau oedran yn berthnasol.
• Mae angen aelodaeth llyfrgell i bawb sy’n mynychu.
#paidstopiodysgu #wythnosaddysgoedolion
Manylion
- Dyddiad: 21st Medi 2026 
- Amser: 2:00pm - 4:00pm
- Rhanbarth: De Orllewin Cymru
- Ffôn: 01554 744327
- E-bost: PEEVans@carmarthenshire.gov.uk