Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
GMB Undeb

Sylwer: nid yw’r cwrs hwn ar gael yn Gymraeg
Er bod salwch meddwl yn gymharol gyffredin, mae dioddefwyr yn aml yn teimlo gormod o gywilydd i ofyn am gymorth. Mewn rhai achosion, gall hyn arwain at ganlyniadau dinistriol – mae salwch meddwl yn lleihau ansawdd bywyd unigolyn a gall hyd yn oed arwain at hunanladdiad.
Yn ffodus, gall bod yn ymwybodol o’r arwyddion, yr achosion a’r driniaeth greu amgylchedd diogel – boed gartref neu yn y gweithle – lle mae pobl yn teimlo fel pe baent yn gallu siarad am eu problemau a chael mynediad at ymyriadau priodol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i gysyniad salwch meddwl, arwyddion a symptomau’r afiechydon meddwl mwyaf cyffredin a sut y gellir rheoli gofid meddyliol yn llwyddiannus.
Byddwch yn dysgu:
Beth sy’n cael ei olygu gan y termau “iechyd meddwl” a “salwch meddwl”, sut mae gofid seicolegol yn amlygu ei hun a sut mae salwch meddwl yn effeithio ar fywyd person.
Prif symptomau iselder, anhwylderau gor-bryder a phyliau o banig.
Symptomau sgitsoffrenia, y gwir y tu ôl i gamsyniadau cyffredin sy’n ymwneud â’r salwch hwn a natur ac effaith seicosis.
Sut mae meddyginiaeth a therapïau siarad yn cael eu defnyddio wrth drin a rheoli salwch meddwl, a pham bod angen i rai pobl sydd â salwch meddwl aros yn yr ysbyty ar sail cleifion mewnol.
Sut a pham mae pobl yn hunan-niweidio, natur meddyliau hunanladdol a sut i helpu rhywun sy’n ystyried dod â’u bywyd eu hunain i ben.
DIDDORDEB: Am fwy o fanylion neu i wneud cais llenwch ein ffurflen
https://forms.office.com/r/tj9cYQY11p
[Gludwch i’ch porwr]
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 07966 191742