Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd – gyda’r Brifysgol Agored
Unison

Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd: Ailgysylltu â byd natur i wella ein hiechyd a’n lles.
Cyflwyniad i ddod â syniadau o fioffilia, natur fel hunan-therapi i gefnogi iechyd a lles unigolion.
Ers dechrau’r Pandemig a chyda’r ansicrwydd presennol o’n cwmpas yn y byd, mae pryderon cynyddol am iechyd meddwl wedi’u gwaethygu gan ystod o ffactorau megis: covid hir, ynysu cymdeithasol, costau byw, eco-bryder, rhyfel … i enwi ychydig.
Felly nawr, yn fwy nag erioed, dyma’r amser i ni ailgysylltu â byd natur er mwyn ein hiechyd a’n lles ein hunain, ac i amddiffyn y byd rydyn ni’n byw ynddo.
Pwy ddylai fynychu?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn therapi gwyrdd a glas i gefnogi lles meddyliol a chorfforol. Dewch draw i roi hwb i’ch hwyliau a’ch lefelau egni!
Cyflwynir y gweithdy hwn yn Saesneg gan Liz Middleton, Seicolegydd Addysg Siartredig, Y Brifysgol Agored, a Sam Forde, Cydlynydd Partneriaethau, Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Manylion
- Dyddiad: 22nd Medi 2022 
- Amser: 9:45am - 11:15am
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 02920729414