Defnyddio sgrin gyffwrdd
Good Things Foundation

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu am sut i ddefnyddio sgrin gyffwrdd ar ffôn symudol neu gyfrifiadur llechen. Bydd y cwrs yn ymdrin â rheolaethau sgrin gyffwrdd sylfaenol a mwy datblygedig. Byddwch hefyd yn darganfod am gael y gorau o’ch ffôn clyfar neu dabled sgrin gyffwrdd.
Mae mwy a mwy o ffonau a chyfrifiaduron yn cael eu gwneud gyda sgrin y gallwch chi gyffwrdd â hi. Mae hyn yn gwneud deall sut i ddefnyddio sgrin gyffwrdd yn bwysig iawn. Mae defnyddio sgrin gyffwrdd ar eich ffôn symudol, ffôn clyfar neu gyfrifiadur llechen yn aml yn haws na defnyddio bysellfwrdd a llygoden.
Adnodd ar-lein yw hwn