Defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein
Good Things Foundation

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu pa wasanaethau cyhoeddus sydd ar gael ar-lein. Byddwch yn dysgu am sut i ddefnyddio gwefan y llywodraeth (GOV.UK) a sut i ddod o hyd i wasanaethau cynghorau lleol.
Mae pob math o wasanaethau cyhoeddus ar gael ar-lein. Mae dysgu sut i ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein hyn yn caniatáu ichi gael mynediad atynt ar amser ac mewn lle sy’n addas i chi. Gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd i wirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt (fel credydau treth), gwasanaethau tai ac i gysylltu â’ch cyngor lleol.
Adnodd ar-lein yw hwn