Cyrsiau Hyfforddiant Hanfodol
Business and International Services, Coleg y Cymoedd

Mae ein cyrsiau / cymwysterau hyfforddi ac e-ddysgu yn cynnwys cyrsiau dan arweiniad tiwtor fel gwobrau ILM digidol, Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch a hanfodion TG, gyda rhai y gallwch eu cwblhau ar eich cyflymder eich hun. Gallwn ddarparu hyfforddiant hanfodol, gyda chyfraddau llwyddiant rhagorol. Mae ein canolfannau hyfforddi arbenigol yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ac achrediad a gydnabyddir gan ddiwydiant. Mae gennym gyfres o gymwysterau ar gael sy’n cynnwys: Cymorth Cyntaf, CIPD (Lefelau 3 a 5), Cyfrifeg (Lefel 4), Ymwybyddiaeth Asbestos a Gosodiadau Trydanol 18fed Argraffiad (gydag opsiynau arholiad hyblyg oherwydd y pandemig cyfredol). Gweler y ddolen am ragor o wybodaeth a dewis o restrau o Gyrsiau Byr Hanfodol, Hyfforddiant Penodol i’r Diwydiant, Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol a mwy.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01443 663128