Prosiect Uwchsgilio @ Gwaith ESF
Coleg y Cymoedd
Mewn ymateb i effaith fân COVID-19 ar les economaidd Cymru, mae Coleg y Cymoedd wedi dod ynghyd â WEFO (Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru) i ddatblygu pecyn o gefnogaeth i helpu a chynorthwyo busnesau a phobl yn ystod yr amser hwn. Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, gallwn nawr gynnig cymwysterau hyfforddi a datblygu achrededig i fusnesau lleol a phobl hunangyflogedig ar gyfer eu staff, sydd â chymhorthdal 100%. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi, ar unwaith, a disgwylir iddo redeg tan fis Mawrth 2022, fod yr hyfforddiant hwn bellach ar gael ar gyfer cwmnïau cymwys. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector o unrhyw faint, gyda chanolfan yng Nghymru, nad ydynt eisoes wedi derbyn mwy na 200,000 Ewro mewn cymorth gwladwriaethol de minimis dros y 3 blynedd ariannol ddiwethaf. Rhaid i’r hyfforddiant fod yn gymhwyster cymeradwy ac achrededig, ac mae’n cynnwys ystod o gymwysterau cysylltiedig â gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd ar gyfer pob sector busnes. Mae potensial i ennill y cymwysterau cydnabyddedig hyn heb orfod gadael y gweithle na cholli unrhyw waith! Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol felly gwelwch y ddolen i gael mwy o wybodaeth am hyn a’r cyrsiau sydd ar gael, yn ogystal â chofrestru’ch diddordeb.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: De Orllewin Cymru
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01443 663128