Technegau Cerameg
Rhwydwaith Addysg Oedolion y Fro
Technegau Cerameg (2) – darn ar YouTube lle mae’r tiwtor yn arddangos amrywiaeth o wahanol dechnegau addurno arwynebau a ddefnyddir mewn cerameg. Sesiwn untro yw hon gyda thudalennau teitl dwyieithog.
Arddangosiad gan diwtor sy’n dangos gwahanol dechnegau addurno arwynebau ceramig gan gynnwys defnyddio:
* stampiau argraffedig
* gwrthrychau naturiol fel dail a chregyn môr
* stampiau pren
* gwydredd lliw
Mae’r fideo YouTube wedi cael ei greu gan Lyn Thomas sy‚Äôn diwtor crochenwaith a cherameg profiadol iawn ac sydd wedi gweithio fel tiwtor dysgu oedolion ers dros 20 mlynedd.
Mae Gwasanaeth Dysgu i Oedolion Bro Morgannwg yn cynnig pedair rhaglen:
Cyrsiau’r Fro ‚Äì yn cynnig rhaglen hyblyg o gyrsiau hamdden.
Ailgydio yn y Trywydd Iawn ‚Äì mae‚Äôr cyrsiau hyn AM DDIM wedi’u cynllunio i helpu unigolion cymwys i ddychwelyd i gyflogaeth.
Canolfan Ddysgu’r Fro ‚Äì yn cynnig cyrsiau sgiliau sylfaenol am ddim i oedolion ym meysydd darllen, ysgrifennu a mathemateg. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill sy‚Äôn awyddus i ddysgu Saesneg.
Dysgu Cymraeg ‚Äì Mae’r Fro yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth – o ddechreuwyr i lefel fedrus.
www.valeofglamorgan.gov.uk/adultlearning.
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01446 733762